Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Chwefror 2018
Amser:
08.53 -
13.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4532
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC Hefin David AC Llyr Gruffydd AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Dr Jane Fenton-May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Rob Morgan, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol John Palmer, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Melanie Wilkey, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Rosemarie Whittle, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Angela Hopkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Nick Wood, Aneurin Bevan University Heath Board Warren Lloyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Liz Carroll, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Dr Peter Gore Rees, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Alberto Salmoiraghi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Rhiannon Jones, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Carole Bell, Pwyllgor Gwasanaethau lechyd Arbenigol Cymru Carl Shortland, Pwyllgor Gwasanaethau lechyd Arbenigol Cymru Robert Colgate, Welsh Health Specialised Service Committee |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, derbyniwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a John Griffiths, nid oedd unrhyw eilyddion.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol.
Cytunasant i ddarparu nodyn yn esbonio pam fod y canran gwariant cenedlaethol ar CAMHS o gymharu â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a ddyfynnwyd yn y sesiwn yn gyfystyr â rhyw 12.7%, sy'n sylweddol uwch na'r canran gwariant unigol a ddyfynnwyd gan bob bwrdd iechyd mewn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar (sy'n amrywio o 5.1% - 8.5%).
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu nodyn ar y nifer o blant a phobl ifanc sy'n aros ar hyn o bryd am asesiad niwroddatblygiadol, a'r cyfnod aros y maent yn ei wynebu.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
6.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar athrawon cyflenwi.
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol - gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod ar 22 Tachwedd
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Bagloriaeth Cymru
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Undeb Addysg Genedlaethol Cymru, y Llais yr Undeb ac UCAC
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Manylion y dyddiadau gwirio allweddol cyn rhyddhau'r cwricwlwm newydd ym mis Ebrill 2019
Gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolwyr o dimau dyletswydd brys y GIG ac ymarferwyr gofal argyfwng yn dilyn y cyfarfod ar 10 Ionawr
E-bost at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan aelodau Chwarae Teg i Athrawon Cyflenwi – gan gynnwys eu llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cymwysterau.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y cyfarfod.